P-05-1021 Peidiwch â gwneud mygydau na gorchuddion wyneb yn orfodol mewn DIM ysgolion (gan gynnwys ysgolion uwchradd)
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Lindsey Jones, ar ôl casglu cyfanswm o 214 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae cymaint o dystiolaeth sy’n awgrymu nad yw mygydau wyneb yn atal feirysau, gan gynnwys y coronafeirws/COVID-19, rhag lledaenu. Mae mygydau’n achosi rhagor o gyffwrdd wynebau’n barhaus a fydd yn lledaenu unrhyw bathogenau sydd ar y mwgwd. Ymhellach, dyfynnir Dr Jenny Harries, a ddywedodd: “Oherwydd ymddygiad dynol, gall pobl roi eu hunain mewn rhagor o berygl o’r feirws, nid llai o berygl, o’u gwisgo.”
Mae llawer o feddygon a gweithwyr iechyd proffesiynol wedi lleisio eu barn a dweud bod mygydau yn cyfrannu at ledaeniad feirysau.
Gwybodaeth Ychwanegol
https://wwwnc.cdc.gov/eid/article/26/5/19-0994_article
https://swprs.org/face-masks-evidence/
https://bmjopen.bmj.com/content/5/4/e006577
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Mynwy
· Dwyrain De Cymru